Mae ein hymwelwyr yn aml yn gofyn, “Beth yw ystyr Cae’r Beili? ”
Mae enwau lleoedd yn aml wedi’u gwreiddio yn nodweddion ffisegol y tirwedd ac mae’r elfen ‘Beili’ yn awgrymu bod amddiffynfa wedi bod yma efallai.
Mae ymchwil diweddar ac awyrluniau yn dangos rhan o safle caer o’r Oes Haearn ar Waun Felin, un o Gaeau Cae’r Beili.
Mae olion annedd wedi cael eu canfod hefyd ar Gae Bryn Mawr, cae cyfagos, felly mae’n debyg bod Cilycwm wedi symud rhyw bryd o ochr ddwyreiniol afon Gwenlais i’w safle presennol, efallai oherwydd y Pla Du.
Felly, creodd rhai o adeiladwyr a phenseiri cyntaf Cymru guddfan yng Nghae’r Beili ganrifoedd yn ôl! Mae’n dal i fod yn encil, yn lle i ddianc o bwysau a phryderon bywyd bob dydd ac yn noddfa i’r enaid.
Source: Enwau yn y tirwedd Blaenau Tywi Names in the landscape