Croeso

Croeso i’n gwefan newydd caerbeili.cymru ac i’n blog cyntaf!

Rydyn ni wedi bod yn croesawu ymwelwyr i Gae’r Beili ers nifer o flynyddoedd a chawn bleser mawr o gwrdd ag ymwelwyr o bedwar ban byd.   Ymfalchiwn ein bod yn gofalu am Cae’r Beili ein hunain ac yn sicrhau’r safonau uchaf bob amser. Mae’n nod yn syml:

Rhoi profiad gwyliau pleserus i chi ac oes o atgofion gyda’ch teulu a’ch ffrindiau.

Yn y blog hwn, byddwn yn defnyddio’n gwybodaeth o’r ardal leol i’ch hysbrydoli ar gyfer eich hymweliad â Chae’r Beili. Lleoedd bendigedig i ymweld â nhw, lleoedd i fwyta, pethau cyffrous i’w gwneud a llawer mwy.

Dewch ‘nôl yn fuan i ddysgu mwy.