Wrth i 2022 ddod i derfyn, carem ddiolch i chi am eich cefnogaeth a gobeithio cewch chi Nadolig a Blwyddyn Newydd hyfryd.
Mae wedi bod yn flwyddyn brysur i ni ond fydden ni ddim yn dymuno unrhyw beth arall!
Mae’r llun yn dangos y goeden Nadolig sydd ar ben heol ein fferm. Gyda chrefftwaith Dafydd, trodd hen frigyn yn goeden Nadolig gydag ychydig o hud “Fairy’ ar y top!
Hoffem ddymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chi. Ac os ydych chi’n cynllunio anturiaethau newydd yn 2023, cysylltwch a ni os gwelwch yn dda.
