Dyddiadur Chwefror

 

Mae Mis Chwefror yn cael ei alw’n “Mis Bach” yn Gymraeg gan taw mis byrra’r flwyddyn ydyw. Ystyrir ef hefyd fel y ffin rhwng y gaeaf a’r gwanwyn. Ond er taw mis byr ydyw, mae’r dyddiau’n ymestyn ac mae arwyddion o’r gwanwyn yn y tir.

Mae’r wyn bach cyntaf allan yn y caeau, mae brogaod yn dechrau dodwy wyau ac mae’r adar yn dewis eu cymar am y tymor Mae’r Lili Wen Fach cyntaf ynghyd a’r Hylithr a Helygen y Gors wedi ymddangos yma. Yn The Sound of Music, mae Marta’n datgan mai un o’i hoff bethau yw Helygen y Gors. Yn ôl y chwedl, taflwyd cathod  bach mewn i afon i foddi. Roedd eu mam yn orffwyll  ond  ymestynnodd yr Helyg y Gors eu canghennau er mwyn achub y cathod bach. Ac ers hynny, bob gwanwyn, mae helyg yn cynhyrchu blagur llwyd sydd mor feddal a sidanaidd â chynfonnau cathod bach!

Y Tywydd

Roedd y tywydd oer ym Mis Ionawr yn sioc i nifer ohonom! Mae proffwydion y tywydd yn dweud bod eira i ddod ym mis Chwefor eleni. Ond hyd yn hyn, mae’r tywydd wedi bod yn fendigedig gydag awyr las a machlud haul bendigedig. . Efallai daw’r eira yn ystod wythnos Hanner Tymor. Bydd ein hwyrion wrth eu bodd gan fod digon o fryniau addas yma ar gyfer sledio!

Y Tymor Wyna

Bydd ein defaid yn cael eu symud mewn i’r sied cyn diwedd y mis ar gyfer ŵyna ym Mis Mawrth. Mae defaid yn cario eu hŵyn am tua 145 diwrnod neu, yn ôl y dywediad, os yw’r hwrdd yn mynd at y defaid ar Noson Tân Gwyllt bydd yr ŵyn yn cael eu geni ar Ebrill 1af – “In with a bang and out like fools!”

Aeth ein defaid ni at yr hwrdd ym Mis Hydref, felly bydd ŵyna’n cychwyn ym Mis Mawrth. Rydym yn cadw llygad craff ar gyflwr ein defaid trwy’r amser– gall problemau ŵyna godi os ydynt yn rhy dew neu’n rhy denau. Mae’r 8 wythnos cyn ŵyna yn hollbwysig. Dyma’r adeg bydd y ffetws yn tyfu fwyaf a bydd colostrwm  sy’n amddiffyn yr oen bach rhag heintiau, yn cael ei greu. Felly, rhaid gofalu am eu diet!

Mis byr ond eto prysur iawn wrth i ni baratoi ar gyfer bywyd newydd a blwyddyn ffermio newydd.