Dyddiadur mis Gorffennaf

Hwyl fawr Mehefin. Croeso mis Gorffennaf. Mae’r haf ar ei anterth!

Beth mae ein gwesteion yng Nghae’r Beili wedi bod yn gwneud?

Mae ein gwesteion yng Nghae’r Beili wedi bod yn crwydro ar ein fferm 150 erw, yn mynd ar antur ar hyd y lonydd gwledig a darganfod Rheadrau Cwm Rhaeadr a Chwm Gwenlais.  Maen nhw wedi bod yn amsugno arogl blodau’r ysgaw sy’n persawru’r aer. Maen nhw wedi sylwi ar bigau dramatig Llysiau’r Santes Fair. Mae’r rhai mwyaf sylwgar wedi gweld tegeiriannau gwyllt hyd yn oed! Mae rhai o’n gwesteion ieuengaf wedi bod yn chwilio am fefus gwyllt ac wedi bod yn ddigon caredig i rannu rhai gyda fi.

Mae Cae’r Beili yn llawn yn ystod mis Gorffennaf.  Rydyn ni’n hapus iawn i groesawu ‘nol rhai o’n hymwelwyr cyntaf o’r Iseldiroedd ac America ar ol y pandemig. Gadawodd yr Iseldirwyr lun hyfryd i ni, wedi ei ysbrydoli gan yr artist Ogwyn Davies. Daeth y geiriau o lyfr Blaenau Tywi Enwau yn y Tirwedd.

Bywyd ar y Fferm

Mae’n adeg prysur iawn ar y fferm. Rydyn ni wedi gorffen cneifio. Felly dyna un jobyn yn llai! Creodd Gary a Rhydian argraff fawr ar ein gwesteion o America a ymunodd gyda ni i weld y cneifio.  Roedden nhw wedi cael eu synnu bod cneifiwr medrus yn medru cneifio dafad mewn llai na dwy funud.  Mae’r gwlan yn cael ei rolio a’i bacio wedyn er mwyn ei gadw’n sych ac yn lan yn barod i gael ei drosglwyddo i’r Bwrdd Marchnata gwlan ym mis Awst.

Ein gorchwyl nesaf fydd torri gwair neu silwair – ychydig yn hwyrach nag arfer eleni oherwydd y tywydd sych, er mwyn bwydo’r defaid dros y gaeaf.

Sioe Frenhinol Cymru

Uchafbwynt y flwyddyn i ni yw’r Sioe Frenhinol sy’n cael ei chynnal yn Llanelwedd tua 45 munud i ffwrdd.  Hwn yw prif ddigwyddiad y byd amaeth ym Mhrydain ac un rydym yn ceisio ei gefnogi’n flynyddol.  Bydd pedwar diwrnod o gystadlu da byw a cheffylau, coedwigaeth, garddwriaeth, crefftau, campau gwledig, siopa, bwyd a diod, adloniant ac arddangosfeydd a digon o gymdeithasu a chwrdd a hen ffrindiau.

Argaeledd mis Awst

Gwyliau byr ar gael Awst 14 – 17. Cysylltwch gyda ni er mwyn cael y pris gorau.