Am fis prysur a chyffrous yng Nghae’r Beili! Pam? Bydd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn cael ei chynnal yn Llanymddyfri ym mis Mai.
Dyma fydd yr wythfed tro i Eisteddfod yr Urdd ddod i Sir Gaerfyrddin. Yn 1935 cynhaliwyd yr Eisteddfod yn nhref Caerfyrddin; Cwm Gwendraeth yn 1989 a Chaerfyrddin eto yn 2007. Ond dyma’r tro cyntaf erioed i’r Eisteddfod ymweld a Llanymddyfri.
Eisteddfod yr Urdd yw un o wyliau ieuenctid mwyaf Ewrop gyda dros 15,000 o blant a phobl ifanc o dan 25 oed yn cystadlu mewn cystadlaethau amrywiol megis canu, llefaru a dawnsio, bob un wedi ennill ei le yn y rowndiau cylch a rhanbarthol yn gyntaf.
Mae’r sied ddefaid wedi troi yn weithdy yn ddiweddar wrth i rai o blant yr Adran leol beintio arwyddion i groesawu ymwelwyr i’r ardal. Y llun isod yw ein hymgais ni i greu lliw a chroeso cynnes i’n ymwelwyr.
Pob lwc i bawb.