Dyddiadur mis Mawrth

 

Mae’n fis Mawrth unwaith eto a dwi’n hapus iawn!

Pwy na all hoffi mis sy’n dechrau gyda Dydd Gŵyl Dewi ac yn cynnwys diwrnod cynta’r Gwanwyn?

Gwnewch y pethau bychain!

Mae Dydd Gŵyl Dewi bob amser wedi bod yn bwysig i mi. Gwisgo fy ngwisg Gymreig, y cyngherddau, yr Eisteddfodau, y cawl, y bara brith a’r pice ar y maen. Mae ein merched a’n hwyrion yn parhau â’r traddodiadau.

Cafodd Dewi Sant ei eni yn y flwyddyn 500. Daeth yn bregethwr adnabyddus a dilynodd fywyd syml, llym.

Bu farw ar Fawrth 1af 589 a chafodd ei gladdu ar safle Eglwys Gadeiriol Tŷ Ddewi. Ei eiriau olaf i’w ddilynwyr oedd, “ Byddwch lawen, cadwch y ffydd a gwnewch y pethau bychain a glywsoch ac a welsoch gennyf i.” Rydym bob amser yn ceisio dilyn yr egwyddor hon yng Nghae’r Beili – trwy ddarparu croeso cynnes a phersonol; sicrhau bod y bwthyn yn lân fel pin mewn papur ac yn glyd a chyfforddus; ychwanegu pethau bach fel dillad gwely meddal a blancedi Cymreig; canhwyllau a thywelion fflwfflyd; a llyfrau, teganau a chreonau i’r plant. Mae pethau bach yn mynd ymhell!

Agos at natur yn y dydd!

Mae mis Mawrth yn fyd o liw a phrysurdeb a does dim gwell amser i ymweld â Chae’r Beili. Mae briallu, hylithr a lili wen fach yn llonni’r ardd. Mae cennin pedr melyn yn eu hanterth yn y cloddiau. Mae’r ŵyn cyntaf anedig yn prancio yn y caeau ac mae’r tymor ŵyna wedi dechrau’n swyddogol! Cyrhaeddodd ein hefeilliaid cyntaf ar Ddydd Gŵyl Dewi. Golygfa hyfryd sy’n cynhesu’r galon ac mae’n amser delfrydol i ymweld â Mynyddoedd Cambrian Cymru.

Agos at natur yn y nos!

Cynhaliwyd yr ail Wythnos Wybren Dywyll Cymru flynyddol ar ddiwedd mis Chwefror er mwyn dathlu’r wybren dywyll anhygoel sydd yma yng Nghymru.

 

Mae naw Safle Darganfod Wybren Dywyll ym Mynyddoedd Cambria Cymru yn unig a llawer mwy ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog hefyd, lle byddwch yn gallu gweld y Llwybr Llaethog, y prif glystyrau o sêr a sêr gwib. Bonws ychwanegol eleni oedd gweld ysblander Goleuni’r Gogledd – diweddglo
syfrdanol i’r wythnos.

A disgleiriodd y “Worm Moon” ar Fawrth 7fed – lleuad lawn olaf y gaeaf sy’n gysylltiedig â thymheredd y ddaear yn codi a dechrau’r gwanwyn.

Os ydych chi’n hoffi byd natur, bwciwch i aros gyda ni yng Nghae’r Beili y gwanwyn hwn a phrofwch fyd natur ar ei orau – gyda’r dydd a chyda’r nos.