Mae mis Medi wedi cyrraedd er roedd hi’n teimlo fel canol haf ar ddechrau’r mis pan gawsom ddiwrnod poethaf y flwyddyn! Erbyn canol y mis roedd y tywydd yn fwy hydrefol. Mae’r dail yn dechrau newid eu lliw a’r planhigion yn barod i wasgaru eu hadau.
Dechrau newydd
Mae’n ddechrau newydd i nifer o blant hefyd wrth i’r flwyddyn ysgol newydd gychwyn. Ac mae prysurdeb mynd a phlant i’r ysgol yn ail gychwyn i’w rhieni! Ond os allwch chi ddianc, beth gallwch ddisgwyl gweld yn y Mynyddoedd Cambrian ym mis Medi?
Y perthi ym mis Medi
Mae’r perthi’n llawn eirin ym mis Medi. Mwyar duon yw’r ffrwythau hydrefol mwyaf adnabyddus ac mae digonedd ohonynt yn ein perthi. Mae mwyara wedi bod yn weithgaredd poblogaidd yng nghefn gwlad ers cenedlaethau ac mae hoff le i fwyara gan bawb. Mae crymbl mwyar ar y fwydlen yn ein ty ni.
Porthi
Gallwch gael llawer o hwyl yn chwilio am fadarch gwyllt, eirin, eirin ysgaw, afalau surion bach a chnau er mae’r wiwerod wedi bwyta’r cnau cyll yn barod eleni. Ac ydych chi erioed wedi agor egroes a cheisio defnyddio’r had fel powdwr cosi?
Gweithgaredd poblogaidd arall ym mis Medi yw casglu afalau. Rydyn ni’n ceisio casglu digon a threulio diwrnod arall yn gwneud saws afal.
Concyrs
Mae mis Medi hefyd yn rhoi cychwyn i dymor y concyrs. Mae ffrwythau pigog y gastanwydden yn dechrau syrthio ac mae’r concyrs brown, sgleiniog yn rhoi llawer o hwyl i’r hen a’r ifanc!
Argaeledd mis Hydref
Llanwodd mis Medi yn gyflym diolch i’n ymwelwyr ffyddlon. Mae peth argaeledd ar ddechrau mis Hydref os hoffech brofi tymor yr hydref yn y Mynyddoedd Cambrian.