Ar eich marciau, barod, croeso mis Mehefin
Mehefin yw’r chweched mis yn y calendar Gregoraidd a dechreuad swyddogol yr haf. Daw’r cofnodion cyntaf o’r gair ‘June’ o cyn 1050. Mae’n dod o’r gair Lladin iuventas sy’n golygu ieuenctid. Roedd June yn cael ei chysylltu gydag ieuenctid oherwydd mai hi oedd duwies ffrwythlondeb. Enwyd y mis er mwyn ei hanrydeddu hi gan fod y mwyafrif o briodasau yn Rhufain yn digwydd yn yr haf a dywedwyd bod June yn eu gwylio’n ofalus ac yn eu bendithio.
Mis Mehefin tanbaid
Rydym wedi cael digonedd o heulwen braf a thymhereddau uchel ym mis Mehefin eleni. Mae ein hymwelwyr wedi manteisio ar y diwrnodau hwy i fynd tu allan i weld beth sy’n digwydd yng nghefn gwlad a mwynhau gweithgareddau yn yr awyr agored.
Dyma’r mis pan mae’r adar yn ceisio hudo’u cywion allan o glydwch y nyth ac allan i’r byd mawr. Mae’r adar wedi bod yn brysur iawn yng Nghae’r Beili. Mae cnocellau’r coed ac adar y to wedi bod yn dod a chegeidiau o fwyd i’w cywion. Mae’n hyfryd gwylio hyn yn digwydd.
Mae popeth yn tyfu ym myd natur. Mae blodau’r haf yn blodeuo yn y perthi. Gludlys coch, bysedd y cwn a gwyddfid. Mae eu harogl melys yn denu gwenyn, ieir bach yr haf a gwyfynod. Ond fy hoff flodau i yw’r rhosynnau gwyllt, gyda’u blodau pinc cain. Am olygfa! Mae’r coed yn ddeiliog ac mae canopi o goed cysgodol ar y trac preifat sy’n arwain at Cae’r beili – lle perffaith i gysgodi rhag y gwres!
Mae ein gwesteion wedi gwir fwynhau bod yn agos at natur y mis hwn. Mae treulio amser ym myd natur yn llesol i iechyd meddwl a chorfforol. Mae tystiolaeth yn dangos bod pobl sy’n ymgysylltu a byd natur yn fwy gwydn, yn teimlo’n llai unig ac yn fwy iach a hapus at ei gilydd. Mae ein gwesteion wedi manteisio i’r eithaf ar y tywydd er mwyn cael brecwast neu ginio tu allan, neu eistedd ar y gadair siglo yn gwylio’r adar a gwrando ar eu can.
Bywyd ar y fferm
Mae llawer o ffermwyr o’n cwmpas wedi bod yn gwneud gwair a silwair, er dydyn ni ddim wedi dechrau eto! Rydyn ni wedi bod yn gwneud y gorchwylion arferol o ddrensio a thrin traed y defaid a byddwn yn cneifio cyn diwedd y mis. Mae Dafydd hefyd wedi bod yn brysur yn cludo coed sydd wedi syrthio fel bod digon o goed tan sych ar gael yng Nghae’r Beili yn y gaeaf.
Gwyliau Haf
Mae mis Mehefin hefyd yn amser i ni feddwl am wyliau haf. Mae ambell gyfnod o wyliau byr ar gael o hyd yng Nghae’r Beili ym mis Awst. Felly os ydych chi am ddianc o fywyd prysur bob dydd, Cae’r Beili yw’r noddfa perffaith i chi. Cysylltwch gyda ni am fwy o fanylion.