Darllenwch y telerau a’r amodau hyn yn ofalus os gwelwch yn dda. Os oes unrhywbeth yn aneglur, cysylltwch â ni er mwyn i ni esbonio mewn mwy o fanylder ac er mwyn osgoi unrhyw gamddealltwriaeth.
Mae archebu’r gwyliau yn ddibynnol ar y telerau a’r amodau canlynol.
Bydd cytundeb rhyngoch chi a ni (y perchnogion) yn dod i fodolaeth pan fyddwn wedi derbyn eich taliad a bydd cadarhad yn cael ei anfon atoch. Mae’r cytundeb yn eich rhwymo chi ac unrhyw aelod o’ch criw. Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod pob aelod o’ch criw yn derbyn telerau’r cytundeb. Gall methu cydymffurfio â’r telerau hyn arwain at derfynnu’r cytundeb a cholli’r gwyliau.
Bydd rhaid talu blaendal o 25% o gost y gwyliau wrth archebu’r gwyliau. Ni fydd modd cael yr arian hwn yn ôl. Rhaid talu’n llawn am wyliau sy’n cael eu archebu lai na chwe wythnos cyn dyddiad dechrau’r gwyliau. Gellir talu trwy siec neu BACS.
Rhaid talu’r gweddill chwe wythnos fan bellaf cyn dyddiad dechrau’r gwyliau. Os nad yw’r gweddill wedi cael ei dalu erbyn y dyddiad hwn, ystyrir eich bod wedi canslo’ch gwyliau.
Rhaid rhoi gwybod i ni am gansladau’n ysgrifenedig. Os byddwch yn canslo’ch gwyliau mwy na chwe wythnos cyn dyddiad dechrau’r gwyliau, byddwch yn colli’r blaendal. Os byddwch yn canslo llai na chwe wythnos cyn dechrau’r gwyliau, bydd y gweddill yn dal yn ddyledus ac ni fydd modd cael hwn yn ôl.
Rydym yn argymell eich bod yn talu am yswiriant gwyliau cynhwysfawr.
Ni fyddwn yn canslo’ch gwyliau oni bai am amgylchiadau eithriadol sydd tu allan i’n rheolaeth. Byddwn yn eich hysbysu am gansladau cyn gynted â phosibl ac yn rhoi ad-daliad llawn yn syth.
Rhaid i chi sicrhau bod yr holl wybodaeth a rowch i ni yn wir, yn gywir, yn gyfredol ac yn gyflawn. Os yw’ch manylion yn newid ( ee cyfeiriad ebost neu gyfeiriad cartref), rhaid i chi ddiweddaru eich manylion yn syth.
Ni ellir derbyn archebion gan bersonau dan ddeunaw oed.
Byddwch yn cyrraedd y bwthyn ar ôl 4pm ar y diwrnod cyntaf ac yn gadael cyn 10 am ar y diwrnod ymadael. Byddwn yn sicrhau bod trefniadau priodol mewn lle i chi gasglu a dychwelyd allweddi’r bwthyn. Os na fydd yr allweddi yn cael eu dychwelyd, byddwn yn codi tâl am rai newydd.
Ni ddylai’r nifer o bobl sy’n preswylio a defnyddio’r bwthyn fod yn fwy na’r rhif a hysbyswyd gennych wrth archebu’r gwyliau. Ni ddylai mwy a chwe pherson ac un baban breswylio yn y bwthyn. Ni fyddwch yn caniatau i unrhyw berson arall heblaw chi a’ch gwesteion ymweld â’r bwthyn a defnyddio’r cyfleusterau heb gael ein caniatad yn gyntaf.
Dylech adael y bwthyn a’r dodrefn, y teclynnau, yr offer, y darnau gosod a’r addurniadau sydd yn y bwthyn yn yr un cyflwr ag oeddent ar ddechrau’r gwyliau a dylech sicrhau fod y bwthyn yr un mor lân ar ddiwedd y gwyliau ag oedd ar ddechrau’r gwyliau. Os bydd y bwthyn mewn cyflwr anaddas, codir tâl ychwanegol am ei lanhau.
Dylech ddweud wrthym cyn gynted â phosib am unrywbeth sydd wedi cael ei dorri neu ei ddifrodi gennych chi neu un o’ch gwesteion yn ystod y cyfnod gwyliau. Efallai codir tâl am y difrod.
Rhaid i chi ganiatau mynediad i’r bwthyn i’r perchennog ar ôl cael rhybudd rhesymol ar gyfer cynnal a chadw neu er mwyn archwilio’r bwthyn.
Ni fydd y perchennog yn atebol os bydd diffoddiad dros dro yn y cyflenwad trydan, dŵr, y we neu’r gwasanaeth teledu.
Ni fyddwn yn eich digolledu os bydd diffoddiad dros dro yn y cyflenwad trydan, dŵr, y we neu’r gwasanaeth teledu.
Weithiau rydym yn gweld bod pobl yn gadael eiddo ar ôl. Efallai bydd modd i ni ddychwelyd yr eitemau hyn gydag isafswm o £10 o dâl ar gyfer postio a phacio. Ni fyddwn yn gyfrifol am ddiogelwch yr eitemau na diogelwch wrth gludo. Gallwn gael gwared ar eitemau sydd wedi cael eu gadael ar ôl heb ddweud wrthoch.
Rhaid dweud wrthym am unrhyw broblem neu adrodd unrhyw gwyn sy’n codi yn ystod eich gwyliau yn syth ac yn uniongyrchol a gwnawn ein gorau i ddelio â’r mater. Ni fyddwn yn ystyried unrhyw gwynion sy’n cael eu hadrodd ar ôl i chi adael.
Rhaid goruchwylio plant bob amser.
Rhaid i chi gloi a sicrhau bod y bwthyn yn ddiogel pan fyddwch yn mynd allan. Arbedwch egni os gwelwch yn dda drwy ddiffodd y golau a throi’r gwres i lawr / i ffwrdd.
Darllenwch a dilynwch y cyfarwyddiadau penodol ar gyfer defnyddio’r offer os gwelwch yn dda a’r wybodaeth gyffredinol sy’n cael ei ddarparu.
Diffoddwch yr holl offer trydanol cyn mynd i’r gwely os gwelwch yn dda a chaewch y drysau.
Sicrhewch fod y tân wedi’i ddiffodd cyn i chi fynd i’r gwely neu cyn i chi adael y bwthyn.
Ni chaniateir anifeiliad anwes, fepio nag ysmygu tu fewn i’r bwthyn a bydd hyn yn arwain at derfynnu’r gwyliau a cholli taliadau. Rhaid glynnu at hyn a disgwylir i chi dalu am unrhyw ddifrod neu lanhau ychwanegol sydd wedi cael ei achosi gan anifeiliaid anwes neu drwy ysmygu.
Disgwylir i chi ddangos parch tuag at bobl eraill yn cynnwys y trigolion lleol.
Mae’r hawl gennym i wneud newidiadau rhesymol neu ychwanegiadau i’r amodau a’r telerau hyn heb eich hysbysu.
Os na fyddwch chi nag un o’ch gwesteion yn dilyn y gofynion uchod, gallwn wrthod adael i chi a’ch gwesteion aros yn y bwthyn a gallwn ofyn i chi a’ch gwesteion adael y bwthyn cyn diwedd y cyfnod gwyliau.