Mae pobl yn aml yn gofyn, “Beth sydd i’w weld a gwneud yng Nghil-y-cwm?”Felly, fe wnawn ni son am yr holl leoedd gallwch ddarganfod ar droed neu yn y car o Gae’r Beili. Mae pentref Cil-y-cwm yn swatio ym Mynyddoedd Cambrian Cymru ac yn ymyl Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Ymweld ag Eglwys Sant Mihangel, Cil-y-cwm

Saif Eglwys Ganoloesol Cil-y-cwm yng nghanol y pentref. Mae’n adeilad urddasol gyda thwr hardd a sawl nodwedd anarferol!
- Y murluniau hardd o 1724 ac a beintiwyd trostynt yn 1986
- Y bedyddfaen deng ochr – saith ochr sydd gan y mwyafrif
- Y gargoiliau sy’n gwepan ar ymwelwyr wrth iddynt fynd heibio!
- Nifer o goed yw yn cynnwys un sydd dros bymtheg cant oed.
- Yr Ysgoldy Fach sy’n edrych dros yr afon Gwenlais. Roedd yr Ysgoldy hwn yn un o Ysgolion Cylchynol Griffith Jones yn y 18fed ganrif.

Felly, mae’n werth ymweld ag Eglwys y pentref.
Dysgu mwy am y Cwteri Coblog
Mae’r cwteri coblog sydd wrth ochr yr heol yng Nghil-y-cwm yn nodwedd unigryw. Yn ystod bwrlwm porthmona yn y 18fed ganrif, roedd heidiau o wartheg, defaid ac anifeiliaid eraill yn cael eu gyrru i’r Dwyrain i’r marchnadoedd yn Lloegr. Roedd pentref Cil-y-cwm yn ffynnu, gyda 5 tafarn a nifer o ofaint. Roedd y cwteri coblog yn cael eu defnyddio i fwydo’r anifeiliaid ac mae’r olion hyn yn dystiolaeth bwysig o’r masnach hwn.
Darganfod Cwm Rhaeadr

Coedwig anghysbell hyfryd iawn yw Cwm Rhaeadr ac mae’n gartref i’r rhaeadr uchaf yn Sir Gaerfyrddin. Mae llwybrau cerdded yn mynd trwy’r fforest yn cynnwys un sy’n arwain at y rhaeadr ac un sy’n addas ar gyfer pob gallu sy’n rhoi mynediad i bawb. Mae llwybr beicio mynydd coch hefyd sy’n cynnig golygfeydd godidog dros y dyffryn a’r rheadr. Mae cylchgrawn MBR yn ei ystyried fel un o’r llwybrau gorau yn y DU.
Yn ol yr hanes, aeth Harri Tudur i Frwydr Bosworth ar gefn ceffyl oedd wedi cael ei fagu yng Nghwm Rhaeadr ac fe enillodd goron Lloegr. Cadwch lygad am gerflun o’r ceffyl chwedlonol hwn ar eich taith o amgylch y goedwig.
Mae Cwm Rhaeadr yn hafan i lawer o rywogaethau anifeiliaid a phlanhigion prin yn cynnwys bele’r coed a’r barcud coch ac amrywiaeth o flodau gwyllt teg a chain, mwsoglau, rhedynnau a ffyngau.

Cwm Rhaeadr yw’r lle perffaith i’r enaid gael llonydd neu os ydych am weithgareddau awyr agored mwy anturus. Cwm Rhaeadr yw un o drysorau mwyaf Cil-y-cwm a Sir Gaerfyrddin ac yn sicr mae’n werth mynd yno.
https://naturalresources.wales/days-out/places-to-visit/south-west-wales/cwm-rhaeadr/?lang=en
Antur ar Fynydd Mallaen

Saif Mynydd Mallaen uwchben pentref Cily-cwm ac mae’n rhan o’r Mynyddoedd Cambrian. Y man uchaf yw Crugiau Merched (1516 troedfedd) a cheir golygfeydd godidog oddi yno. Mae llawer o feini hirion yno hefyd.
Dau bentwr o gerrig rhyfedd yw Creigiau Ladis. Cafodd dwy wraig o Lundain eu halltudio o’u cartrefi. Roedd hyn yn newid enfawr yn eu bywydau ac aethant ati i gasglu pentyrrau o gerrig a sefyll ar eu pennau er mwyn gweld Llundain. Tybed a allwch chi weld y London Eye neu Dwr Llundain?
Heb unrhyw amheuaeth, Mynydd Mallaen yw’r lle i fod os ydych chi’n chwilio am dawelwch, arwahanrwydd, diffeithwch ac awyr iach!

“https://www.thecambrianmountains.co.uk/”>https://www.thecambrianmountains.co.uk/</a></p>
Edmygu Neuadd Fawr
Neuadd Fawr oedd “y ty mawr” yng Nghil-ycwm. Roedd yn dra llewyrchus cyn y Rhyfel Mawr pan oedd yn berchen ar ac yn rheoli rhannau helaeth o’r pentref. Roedd Mynydd Mallaen a Chraig Rhosan yn gefndir i’r ty ac roedd Wellintonias o’i flaen.

Mynd am dro ar hyd yr afon Tywi
Yr afon Tywi yw asgwrn cefn Cil-y-cwm. Hi yw’r afon hiraf sy’n llifo’n gyfangwbl yng Nghymru. Mae’n 75 milltir o hyd ac yn gwau ei ffordd o’i ffynhonnell yn y Mynyddoedd Cambrian i Fae Caerfyrddin. Mae’r Tywi yn llifo’n gyflym ac mae ganddi lawer o byllau dyfnion sef rhai o’r lleoedd gorau i bysgota yng Nghymru gyda chyflenwad da o eog a brithyll. Mae’r traddodiad Cymreig o bysgota gyda chwryglau hefyd yn digwydd ar yr afon Tywi.
” And river Tywi men have said
Is the lovliest river God has made.”
Dudley G. Davies
Galw heibio i Bont Dolauhirion
Mae llawer o bontydd yn croesi’r Tywi gan gynnwys Pont Dolauhirion. Cafodd ei hadeiladu yn 1773 am £800 gan Thomas Edwards mab yr adeiladwr pontydd enwog William Edwards sy’n cael ei gofio fwyaf am ei bont enwog ym Mhontypridd. Mae’r bont bwa sengl a bylchau crwn ynddi sy’n lleihau’r pwysau yn y prif adeiledd adeg llifogydd. Mae Pont Dolauhirion yn cael ei chydnabod fel un o’r deuddeg pont mwyaf prydferth yn y byd. Felly gwnewch ychydig o amser i’w hedmygu.

Gobeithio ein bod wedi ennyn eich diddordeb a’ch denu i ddarganfod ein pentref hyfryd. Ni fydd Cil-y-cwm yn eich siomi!