Cae’r Beili

Cyn gynted ag y byddwch wedi croesi’r rhiniog, cewch eich cyfareddu gan  Cae’r Beili  a mwynhau manylder y saernïaeth. Fan hyn, gallwch adael rhuthr y byd ar ôl.

Amser o Ansawdd

Mae’r bwrdd mawr yn yr ystafell haul yn fan i ddod ynghyd.

Dod i Adnabod ein Hardal

Man i gymryd amser i ymlacio a theimlo’n well

DARN BACH O’R NEFOEDD YN GORWEDD YM MYNYDDOEDD CAMBRIAN CYMRU AC AR YMYL PARC CENEDLAETHOL BANNAU BRYCHEINIOG

Ysgubor 200 oed yw Cae’r Beili. Mae’n swatio ar hyd lôn goediog a saif ar ei ben ei hun mewn man preifat a neilltuedig. Mae’n cysgu hyd at chwech o bobl, ac yn hafan ar gyfer cyplau, teuluoedd neu ffrindiau.

Agos at natur yn y dydd ac yn agos at y sêr yn y nos

Darganfod Cymru

Dy’ ni byth yn bell o olygfa berffaith o gadwyni o fynyddoedd syfrdanol, rheadrau, llynnoedd, fforestydd, adfeilion hynafol a chestyll neu’r arfordir. Mae’r cyfan oll gennym!

Creu Atgofion…

Mae bob eiliad gyda ni yn atgof i’w drysori.

Parc Cendelaethol Bannau Brycheiniog 

Mwynhewch ryfeddodau Bannau Brycheiniog a’r awyr agored gwych.

Mynyddoedd Cambrian

Ardal o Harddwch Naturiol Syfrdanol, mae’r Mynyddoedd Cambrian yn wyllt a chroesawgar, man o harddwch gyda threftadaeth hudolus.

Y Diweddara’ o’n Blog

Beth i’w weld a gwneud yng Nghil-y-cwm

Beth i’w weld a gwneud yng Nghil-y-cwm

Mae pobl yn aml yn gofyn, "Beth sydd i'w weld a gwneud yng Nghil-y-cwm?"Felly, fe wnawn ni son am yr holl leoedd gallwch ddarganfod ar droed neu yn y car o Gae'r Beili. Mae pentref Cil-y-cwm yn swatio ym Mynyddoedd Cambrian Cymru ac yn ymyl Parc Cenedlaethol Bannau...

Ein bwthyn gwyliau ym mis Tachwedd

Ein bwthyn gwyliau ym mis Tachwedd

Mae dail yr hydref wedi bod yn syrthio o'r coed ac yn casglu ar hyd waliau a pherthi yn ein bwthyn gwyliau y mis hwn. Mae mantell o niwl ar y mynyddoedd ac mae anadl y ddraig yn loetran yn y dyffrynoedd. Mae'r clociau wedi cael eu troi yn ol, mae tanau yn cael eu...

Dyddiadur mis Medi

Dyddiadur mis Medi

Mae mis Medi wedi cyrraedd er roedd hi'n teimlo fel canol haf ar ddechrau'r mis pan gawsom ddiwrnod poethaf y flwyddyn! Erbyn canol y mis roedd y tywydd yn fwy hydrefol.  Mae'r dail yn dechrau newid eu lliw a'r planhigion yn barod i wasgaru eu hadau. Dechrau newydd...

Sylwadau gan ein Hymwelwyr

"Darn bach o’r nefoedd yn swatio yng Nghymru."

Laura a Dan

"Wythnos arall o ymlacio yn y bwthyn gwych hwn a dyna pam rydyn ni’n hoffi dod yma flwyddyn ar ôl bwyddyn. Mae Dafydd a Meryl yn westeiwyr gwych, bob amser yn gyfeillgar ac yn barod i helpu ac yno os oes angen ond byth yn ymyrryd."

David, Mollie a theulu

"Mae’r lle prydferth hwn yn gwneud i ni ymlacio a bwrw’n blinder ac yn barod i wynebu’r byd ( bron!) bob tro. Dy’ ni byth eisiau gadael ac mae hynny’n ein gwneud yn fwy penderfynol o ddychwelyd!"

Ruth a Martin

"Lle arbennig iawn! Mae cerdded a darganfod y rhan hon o Gymru wedi bod yn hyfryd. Rydyn ni wedi mwynhau Cwm Rhaeadr, y Mynydd Du a’r ardal o amgylch Llyn Brianne yn arbennig. Golygfeydd godidog. Mae’r dafarn leol wedi bod yn dda – bwyd a chwrw da."

Samantha, Kevin, Sally a James

"Roedd y bwthyn wir yn baradwysaidd, gyda phob cyfleuster. Roedd popeth roedd ei angen gyda ni. Gwyliau gwych gyda llawer o atgofion hapus."

Janet

"Mae’r lle’n anhygoel. Roeddem yn agos at fyd natur yn y dydd a’r sêr yn y nos. Ar noson glir mae miliynau o sêr yn yr awyr. Mae mor hudolus. Cymaint o gyffyrddiadau meddylgar. Cawsom amser gwych."

Ben a Laura

"Ni allaf ddweud digon am Cae’r Beili. Mae’r ansawdd a’r crefftwaith yn rhagorol. Mae’r lleoliad yr un mor anhygoel ac yn hollol breifat ac o’r neilltu. Aethom ar sawl taith gerdded o’r drws ac yna dychwelyd i hyfrydwch y bwthyn. Gwir ddarganfyddiad a gallwn ei argymell yn llwyr ar gyfer hamddena."

Sally a Jake

"Bwthyn hyfryd mewn lle syfrdanol. Byddwch yn gallu teimlo’r tawelwch. Perffaith."

Mike a theulu

"Mae Cae’r Beili yn fwthyn preifat, braf . Mae’r golygfeydd yn syfrdanol ac mae cymaint o gymeriad a swyn gan y bwthyn. Mae wedi cael ei adnewyddu gyda gofal ac eto gyda theimlad o foethusrwydd ac mae’n cynnwys popeth sydd angen arnoch ar gyfer gwyliau perffaith. Os gallwch lusgo’ch hun i ffwrdd, mae llu o bethau i’w gwneud yn yr ardal sydd o gwmpas. Ni allaf argymell Cae’r Beili ddigon."

Alex