Ein bwthyn gwyliau ym mis Tachwedd

Mae dail yr hydref wedi bod yn syrthio o’r coed ac yn casglu ar hyd waliau a pherthi yn ein bwthyn gwyliau y mis hwn. Mae mantell o niwl ar y mynyddoedd ac mae anadl y ddraig yn loetran yn y dyffrynoedd. Mae’r clociau wedi cael eu troi yn ol, mae tanau yn cael eu cynnau ac mae’r rhew cyntaf wedi cyrraedd. Ond mae ein bwthyn gwyliau bob amser yn gynnes a chroesawgar!

Daw mis Tachwedd, yr unfed mis ar ddeg, rhwng gwefr y pwmpenni a chyffro’r Nadolig a’r teimlad ‘na bod 2024 ar fin cyrraedd! Beth ydych chi’n edrych ymlaen ato yn 2024?

Ein bwthyn gwyliau ym mis Tachwedd

Cyfwerth llun a llith, medden nhw. Felly’r mis hwn rydw i’n rhannu mwy o luniau na geiriau er mwyn gweld sut mae pethau yn ein bwthyn gwyliau ym mis Tachwedd.

Cae’r Beili ym mis Tachwedd
Golygfeydd o’n bwthyn gwyliau ym mis Tachwedd
Golygfeydd o’n bwthyn gwyliau ym mis Tachwedd

Ein bwthyn gwyliau yn y nos

Mae’r dyddiau’n byrhau, felly mae mwy o amser i edrych ar y ser. Mae rhai o’r wybrennau tywyllaf yn Ewrop yn y Mynyddoedd Cambrian. Ar noson glir, bydd myrdd o ser yn goleuo’r ffurfafen.

Llun: Dafydd Wyn Morgan

A blaze of green, red and purple in the night sky

“Winter to bring te best northern light displays for 20 years,” scientists say

Guardian 06/11/2023

Llun: Dafydd Wyn Morgan / Cambrian Mountains Initiative

Efallai eich bod yn gwybod bod Goleuni’r Gogledd i’w weld yn fwy aml yn y ffurfafen. Mae pobl yn y Mynyddoedd Cambrian wedi bod yn ddigon ffodus i’w gweld ar bedwar achlysur eleni ac maen nhw wedi eu gweld nhw gyda’r llygad noeth.

Rydym yn awr yn cyrraedd y penllanw yng nghylch Goleuni’r Gogledd, cylch o 11 mlynedd. Felly os hoffech chi weld neu dynnu llun o’r ffenomenon naturiol hwn, dewch i aros yn ein bwthyn gwyliau. Bydd ap Aurora Watch UK yn rhoi’r manylion diweddaraf i chi ynglyn a phryd i weld Goleuni’r Gogledd.

https://www.skyatnightmagazine.com/space-science/what-causes-the-aurora

Argaeledd mis Rhagfyr yn ein bwthyn gwyliau

Oherwydd bod pobl wedi canslo yn ddiweddar, mae dwy noson ar gael o Ragfyr 27 – 29. Felly os ydych chi’n chwilio am le i ddianc ar ol hwyl y Nadolig, dewch i swatio yn y Mynyddoedd Cambrian. Gallai Cae’r Beili fod yn berffaith i chi gyda theithiau cerdded di ri o’r drws, decor gwych a digonedd o lonydd a phreifatrwydd. Beth amdani?