Sut yn y byd mae’n fis Awst? Mae’r flwyddyn yn hedfan!
Tywydd mis Awst
Ar ol y mis Mehefin sychaf a’r mus Gorffennaf gwlypaf, mae Awst hefyd wedi bod yn fis gwlyb. Rydym wedi llwyddo o’r diwedd i gael dau ddiwrnod sych er mwyn gwneud silwair.
Rheadrau
Mae ymyl arian i bob cwmwl du, medden nhw. Yr ochr bositif i’r glaw hyn i gyd yw bod ein rheadrau lleol yn edrych yn drawiadol iawn. Rydym yn ffodus i gael llwybrau sy’n arwain at dri rheadr o Gae’r Beili – Cwm Gwenlais, Cwm Merchon a Chwm Rhaeadr – y rhaeadr talaf yn Sir Gaerfyrddin. Mae’r sgydau nerthol yn hudolus. Mae sain y dwr yn ffrwydro yn lleddfol ac mae profi’r chwistrelliadau o ddwr ar eich wyneb yn hyfryd. Ac mae’r cyfan yn ein milltir sgwar – ac am ddim!

Grug
Mae mis Awst yn amser da i edmygu’r grug sydd yn ei flodau. Mae’r blanced o binc a phorffor yn olygfa wych i’n gwesteion brofi. Mae’n dda i’r gwenyn hefyd ac mae hadau’r grug yn ffynhonnell da o fwyd i’r adar nes ymlaen yn y flwyddyn.

Y Gerdinen
Mae’r gerdinen yn werth ei gweld y mis hwn hefyd. Eleni, mae’n llawn o eirin coch. Ydy hyn yn arwydd o aeaf caled tybed?
Argaeledd mis Medi
Mae argaeledd yng Nghae’r Beili o ganol y mis. Os hoffech chi gael amser i ymlacio, cysylltwch a ni os gwelwch yn dda.