Dyddiadur mis Ebrill

Mae mis Ebrill yn fis hudolus. Daw o’r enw Aprillis sy’n golygu agor. Mae’n cyfeirio at y coed a’r blodau sy’n “agor” neu’n blodeuo.

Deffro’r Gwanwyn!

Mae’r dydd yn ymestyn a’r tywydd yn cynhesu. Mae’r tyfiant yn newid o liwiau brown a llwyd y gaeaf i wyrddni’r gwanwyn.

Mae’r adar yn weithgar iawn ym mis Ebrill. Mae’r tymor magu wedi dechrau i rai adar, megis yr aderyn du, y titw tomos las a’r titw mawr. Bydd eraill megis robiniaid, esgyll brithion a llwydiaid y berth yn magu ym mis Ebrill.

Mae côr y bore bach yn fwy cyfoethog yr adeg hon o’r flwyddyn. Felly ewch am dro yn gynnar yn y bore. Mae’n brofiad hyfryd ac mae gwrando ar gân yr adar mor lleddfol. Mae’r RSPB Guide to Bird Calls yn medru eich helpu i adnabod cân yr amrywiol adar.

Mae’r gwenoliaid yn ôl

Mae’r gwenoliaid, ar ôl taith lafurus o Dde Affrica trwy Ogledd Affrica, ar draws y Sahara a Morocco, trwy Sbaen a Ffrainc, wedi cyrraedd. Mae gweld y gwenoliaid cyntaf, ynghyd â chlywed y gwcw am y tro cyntaf, yn un o ddigwyddiadau mawr ein calendr naturiol ac yn arwydd bod y gwanwyn wedi cyrraedd.

Ŵyna

Ŵyna yw’r prif flaenoriaeth ar y fferm o hyd. Mae’n brysur iawn yma!

Mae’r mwyafrif o’n defaid yn ŵyna’n ddidrafferth ac mae’r oen yn codi ar ei draed bron yn syth. Ond, os yw’r oen yn rhy fawr neu’n gorwedd yn lletchwith, bydd angen cymorth. Anawsterau eraill sy’n codi yw bod angen cymorth ar rai ŵyn i sugno a bydd rhaid eu “dodi nhw i sugno”. Weithiau dyw’r ddafad ddim yn cynhyrchu digon o golostrwm. Felly bydd rhaid bwyda’r oen â llaw. Mae’n bendant yn brawf ar nerth a dycnwch y bugail!

Mae ein gwesteion yn mwynhau gweld ein ŵyn yn prancio yn y caeau o amgylch Cae’r Beili. Teimlwn yn aml ein bod yn cynnal ein Grand National ni ein hun!

Digwyddiadau mis Ebrill

01 – 02 Ebrill, A Taste of Wales Spring Festival, Gardd Fotaneg Cymru
Gŵyl i ddathlu bwyd, diod, celf a chrefft, crefftwyr a gwneuthurwyr Cymru. Hwyl i’r teulu cyfan.

22 – 23 Ebrill, Gwyrthwlan, Maes y Sioe Frenhinol, Llanelwedd
Prif ŵyl gwlân a ffibrau naturiol.

29 – 30 Ebrill, Gŵyl Lên Llandeilo Lit Fest
Rhaglen amrywiol o drafodaethau, darlleniadau a pherfformiadau yn nhre farchnad Llandeilo.

Dydd Ffŵl Ebrill

Disgwylir pranciau a drygioni ar Ddydd Ffŵl Ebrill. Ond sut dechreuodd hyn? Mae llawer yn credu ei fod wedi dechrau yn Ffrainc yn yr unfed ganrif ar bymtheg. Bryd hynny, roedd Dydd Calan ar Fawrth 25ain, gydag wythnos o gynnal partïon a chyfnewid anrhegion tan Ebrill 1af. Ond, yn 1582, symudodd y Calendr Gregoraidd ddydd Calan i Ionawr 1af. O ganlyniad, galwyd person oedd wedi anghofio neu a oedd yn gwrthod dilyn y calendr newydd yn “Ffŵl Ebrill”.

Felly peidiwch chi â bod yn Ffŵl eleni! Gwnewch yn siwr eich bod yn ymweld â Chae’r Beili’r gwanwyn hwn ar gyfer Gwyliau Pasg sy’n llawn hwyl neu wyliau byr lle mae digon i’w weld a’i wneud!